Astudiaeth Dichonoldeb Busnes Lads & Dads

Grŵp lles dynion yw Lads & Dads sy’n helpu i wella lles eu haelodau, trwy sesiynau cerdded, hwyluso grwpiau siarad a chynnig cymorth un-i-un. Mae’r tîm Reach yn cefnogi Lads and Dads CIC i ddatblygu astudiaeth ddichonoldeb bwrpasol. Bydd yr astudiaeth yn ystyried faint o gapasiti sydd gan y mudiad i greu arian trwy fasnachu, yn adnabod ffynonellau cyllid allanol, yn cynnal arolwg ymhlith aelodau ac yn cynnal archwiliad gweithgareddau. Bydd y canfyddiadau’n cael eu cwblhau ar ffurf cynllun 5 mlynedd realistig i’r CBC wireddu eu gweledigaeth i gefnogi lles dynion ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae gan Lads and Dads dros 2000 o bobl yn eu grŵp ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn aml maent yn cwrdd wyneb yn wyneb i gefnogi ei gilydd. Maent yn cynnig gweithgareddau amrywiol bob wythnos, gan gynnwys sesiwn rhandir, cerdded, sgyrsiau grŵp, gemau pêl-droed a throchi mewn dŵr oer.  Maent yn chwilio am gymorth i gynllunio’r prosiect, i’w galluogi i estyn eu harlwy a rhoi cymorth gyda lles i fwy byth o ddynion yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

CBC Lles Dynion Lads & Dads


Oriel y prosiect