Mapio’r Celfyddydau

Mae Reach yn gweithio gyda Creative Lives Ltd i gynnal ymarfer mapio ac ymchwil a fydd yn amlygu gweithgareddau creadigol lleol sy’n digwydd o amgylch Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y prosiect yn cynnal ymchwil ar ffurf arolwg, grwpiau ffocws wedi’u hwyluso a chyfweliadau un-i-un; bydd ei ganlyniadau’n cael eu coladu a’u drafftio mewn adroddiad llawn.

Dangosodd astudiaeth flaenorol yn 2017 fod tua 90 o grwpiau celf a chrefft ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar y pryd yn ôl yr amcangyfrif. Mae’r data hwn yn hanesyddol ac nid oedd yn cynnwys grwpiau anffurfiol ac fe effeithiwyd arno wedyn gan darfu a achoswyd gan y pandemig.

Mae gan grwpiau creadigol lleol gryn dipyn i’w gyfrannu at gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Gellid gwireddu potensial digyffwrdd y grwpiau creadigol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn well pe baent wedi’u cysylltu’n fwy â’i gilydd ac â chyrff cyhoeddus.

Creative Lives


Oriel y prosiect