Parc Traciau Beiciau BMX
Cysylltodd Llynfi BMX â thîm Reach yn CBSP, i wneud cais i’r Gronfa Dichonoldeb Cymunedol am gyllid i gynnal astudiaeth a fyddai’n cynorthwyo’r Grŵp i ystyried trefniant Trosglwyddo Ased Cymunedol mewn perthynas â hen Safle Glofa Coegnant, sydd wedi bod yn segur ers blynyddoedd lawer.
Mae Clwb Rasio BMX Llynfi yn cynnig cyfleoedd i blant, pobl ifanc ac oedolion gymryd rhan mewn rasio BMX ar Drac Safon Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys sesiynau trac agored, sesiynau coetsio, sesiynau hyfforddi a rasio hyd at lefel Ranbarthol. Gall cyfranogwyr fenthyg beiciau rasio BMX a helmedau wyneb llawn gan y clwb, sydd hefyd yn cynnig llwybrau i mewn i’r Gamp.
Ar hyn o bryd, prin iawn yw’r cyfleusterau chwarae a chwaraeon awyr agored yng Nghaerau a Chwm Llynfi sydd â mynediad agored ac sy’n darparu’r cyfleoedd i blant a phobl ifanc deimlo’n ddiogel, bod yn egnïol, mwynhau cymdeithasu a chael hwyl gyda’i gilydd yn eu cymuned.
Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn cynnwys ymgynghori â phobl ifanc leol, opsiynau datblygu ar gyfer y safle, ystyried gwahanol elfennau megis llifoleuadau, adeilad pwrpasol gan gynnwys toiledau a chyfleusterau newid, yn ogystal â nodi costau ar gyfer caffael a datblygu’r safle a nodi cronfeydd cyfalaf posibl i gyflawni’r prosiect. Cyflwynir y cyfan mewn adroddiad a fydd yn sail i geisiadau cyllido yn y dyfodol.
Diweddariad ar yr ymgynghoriad dichonoldeb
Rydym wrth ein bodd i rannu bod ein hymgynghoriad diweddar ar y gwaith uwchraddio ac ychwanegiadau arfaethedig i barc BMX Llynfi wedi bod yn llwyddiant mawr!
Diolch i bawb a ymunodd â ni ar Sul gwyntog Rhagfyr yn y Clwb BMX, a phawb a gymerodd yr amser i roi adborth gwerthfawr. Mae eich mewnbwn yn hanfodol i’n helpu i lunio dyfodol y mannau cymunedol hyn a bydd yn chwarae rhan allweddol wrth greu achos cymhellol dros pam mae angen y prosiect hwn.
Y Camau Nesaf
Ar hyn o bryd rydym yn dadansoddi’r adborth a dderbyniwyd o’r ymgynghoriad i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed.
Mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i lywio astudiaeth ddichonoldeb fanwl, a fydd yn ein helpu i gryfhau ein hachos dros geisiadau am gyllid pan fyddant ar gael. Ein nod yw cwblhau’r astudiaeth ddichonoldeb yn ystod y misoedd nesaf.
Mae taflen grynodeb o’r ymgynghoriad ar gael isod.
Diolch unwaith eto am fod yn rhan o’r broses bwysig hon. Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio i greu mannau i blant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws Caerau fwynhau cyfleoedd hamdden gydol y flwyddyn.
Cyfleusterau a gwelliannau newydd Trac BMX
Ein gweledigaeth yw trawsnewid Clwb Rasio BMX Llynfi yn un o’r cyfleusterau BMX gorau yn y DU. Byddai hyn yn golygu uwchraddio’r trac presennol, ychwanegu cyfleusterau beicio newydd fel trac pwmpio a pharc sglefrio, a gwelliannau i fwynderau, gan gynnwys caffi ac ystafelloedd ymolchi.
Pam fod Mewnbwn Cymunedol yn Bwysig
Mae eich mewnwelediadau a’ch syniadau yn hanfodol i sicrhau bod y cyfleusterau hyn yn adlewyrchu anghenion a dyheadau trigolion Caerau. Drwy gymryd rhan nawr, rydych chi’n ein helpu i lunio dyfodol ein mannau cymunedol a sicrhau y gallwn ni adeiladu achos cryf dros gyllid pan fydd ar gael.
Cwestiynau Cyffredin
Pam fod angen y prosiectau hyn?
Rydym yn credu y gall Caerau elwa ar gyfleusterau hamdden gwell sy’n darparu mannau diogel, hygyrch ar gyfer gweithgarwch corfforol ac ymgysylltu cymdeithasol. Nod y prosiectau hyn yw mynd i’r afael â bylchau a nodwyd mewn adnoddau cymunedol a diwallu’r galw cynyddol am leoedd chwaraeon a gweithgareddau amlbwrpas.
A yw cyllid eisoes wedi’i sicrhau?
Er nad yw cyllid wedi’i sicrhau eto, rydym yn adeiladu achos cryf dros y prosiectau hyn fel y gallwn ni fynd ar drywydd cyfleoedd ariannu wrth iddynt godi.
Sut gallaf gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prosiect?
Byddwn ni’n darparu diweddariadau ar y dudalen hon, gan gynnwys cyhoeddiadau ar gerrig milltir prosiectau a datblygiadau ariannu.