Pentref Sero Net

Mae cymuned De Corneli wedi creu Cwmni Buddiannau Cymunedol (CBC) o’r enw South Cornelly Renewable Energy CIC, i’w galluogi i wireddu eu huchelgais i greu “Pentref Sero Net”. Mae Reach yn cynorthwyo’r grŵp gydag astudiaeth ddichonoldeb a fydd yn adeiladu ar brosiect cynharach a ddatblygwyd yn y pentref i’w galluogi i greu marchnad ynni leol (MYL).

Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn ymchwilio i sut y gall y farchnad ynni leol gael ei hehangu a’i hintegreiddio ag electroleiddiwr arfaethedig yn cynhyrchu hydrogen gwyrdd, o asedau solar a gwynt a berchnogir gan gymuned, ar gyfer datgarboneiddio gwres yn y pentref. Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn mynd i’r afael â materion technegol, masnachol a llywodraethu, gan ddangos a yw’n bosibl i’r pentref gyflawni ei weledigaeth sero net.  Bydd yr astudiaeth hefyd o gymorth i ddatblygu cynllun busnes lefel uchel y gall y CBC ei ddefnyddio fel sail ar gyfer datblygu ceisiadau am gyllid yn y dyfodol ac i ddenu buddsoddiad lle y bo angen.

Grŵp Cymunedol De Corneli