Hyb Cyn-filwyr Porthcawl

Mae hyb Cyn-filwyr Porthcawl wedi cael ei gynorthwyo gan dîm Reach ac ymgynghorydd arbenigol i benderfynu ynghylch y posibilrwydd o brynu neu adeiladu adeilad hunangynhwysol i’r grŵp weithredu ohono. Mae hyn â’r potensial i gwella eu gwasanaethau a’u heffaith gymunedol. Mae’r astudiaeth wedi wneud chwiliad cyflawn o’r safle safle, asesu gwasanaethau ac adolygu cysylltedd digidol gydag adroddiad prosiect a fydd yn cynnwys costau llawn.

Mae Hyb Cyn-filwyr Porthcawl, a sefydlwyd yn 2019, wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith cyn-filwyr, personél sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, teuluoedd cyn-filwyr a’r gymuned ehangach. Yn anffodus, daeth eu hadeilad blaenorol, caban symudol ym Mharc Griffin, yn anniogel, gan adael aelodau (gan gynnwys y Lleng Brydeinig Frenhinol) heb adeilad. Ar hyn o bryd mae’r hyb yn gweithredu mewn adeilad a rennir ac yn wynebu heriau, megis diffyg preifatrwydd ar gyfer cymorth un-i-un hanfodol.

Gan weithredu dim ond am ddwy awr ar foreau Sadwrn, mae grŵp Cyn-filwyr Porthcawl wedi profi twf sylweddol, gan gynyddu aelodaeth o 32% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd y grŵp yn arfer cynnig ystafelloedd preifat ar gyfer sesiynau un-i-un, gan fynd i’r afael ag anghenion cymhleth a lluosog, cofrestru cyn-filwyr i gael cymorth a darparu cwmnïaeth. Nod y grŵp yw brwydro yn erbyn unigrwydd ac arwahanrwydd, yn enwedig i’r rhai sydd wedi colli priod.

Bydd yr ymchwil a gyflawnir a’r astudiaeth ddichonoldeb fanwl yn adnabod lleoliad addas ar gyfer y grŵp, yn ogystal ag adnabod cyllidwyr cyfalaf i symud y prosiect yn ei flaen.

Hyb Cyn-filwyr Porthcawl


Oriel y prosiect