Prosiect Effeithlonrwydd Ynni Pen-y-bont ar Ogwr (BEEP)

Bydd Prosiect Effeithlonrwydd Ynni Pen-y-bont ar Ogwr (BEEP) yn darparu arolygon ynni at ofynion unigol ar gyfer 40 o adeiladau cymunedol a chyfleusterau chwaraeon ledled Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd yr arolygon yn dangos pa newidiadau a gwelliannau ellir eu gwneud i’r lleoliad i wella effeithlonrwydd ynni. Yna byddant yn darparu tystiolaeth berthnasol i sicrhau grantiau cyfalaf yn y dyfodol i sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol a gostyngiad mewn costau rhedeg.

Bydd prosiect BEEP yn cynorthwyo grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon i gyflawni newid sylweddol yn eu defnydd o ynni a’u rhoi eu hunain ar sail fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.  Mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod cyfnodau o gynnydd mewn costau ynni a’r angen i symud i sero net erbyn 2030.

Nod y prosiect yw targedu a chefnogi hyd at 40 o adeiladau (20 canolfan gymunedol ac 20 pafiliwn chwaraeon) ledled y Fwrdeistref Sirol sy’n cael, neu yn y broses o gael, eu rheoli’n annibynnol gan grwpiau cymunedol / clybiau chwaraeon.

https://www.bridgend.gov.uk/cy/busnes/trosglwyddo-asedau-cymunedol/


Oriel y prosiect