Prosiect Gwella Rest Bay Sports
Mae tîm Reach yn gweithio gyda Rest Bay Sports i gomisiynu ymgynghorydd arbenigol i gynnal astudiaeth ddichonoldeb fanwl ar gyfer gwella’r caeau a’r cyfleusterau newid ym Mae Rest ym Mhorthcawl.
Sefydlwyd Rest Bay Sports yn 2016 i reoli’r maes chwaraeon a’r pafiliwn ym Mae Rest, Porthcawl. Mae Rest Bay Sports Ltd wedi cymryd prydles y safle fel rhan o raglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol CBSP. Ers i’r trosglwyddiad ddigwydd, mae’r nifer sy’n cymryd rhan yn y clybiau pêl-droed a rygbi cymunedol sy’n defnyddio’r safle wedi cynyddu’n sylweddol, sy’n wych i’r dref a’r gymuned leol ac sydd â llawer o fanteision i iechyd a llesiant y gymuned leol. Mae’r clwb yn credu bod angen uwchraddio’r caeau chwaraeon a’r pafiliwn a’u gwella i gefnogi’r galw cynyddol hwn.
Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb a gynhelir ar y cyd â thîm Reach yn ystyried draenio a gwneud gwelliannau posibl i’r caeau ac yn asesu’r potensial i gynnwys ystafelloedd newid ychwanegol.