Strategaeth Gymunedol Betws
Sefydlwyd Fforwm Betws gyda’r nod o fynd i’r afael â phroblemau lleol a gwella pentref Betws, un o wardiau mwyaf difreintiedig Pen-y-bont ar Ogwr. Trigolion lleol yw aelodau’r Fforwm ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector hefyd. Nododd aelodau Fforwm Betws, fel cynrychiolwyr y gymuned leol, fod angen cynnal gwaith ymgynghori cwmpasu cyn creu Cynllun Datblygu Cymunedol 5 mlynedd y gellir ei gyflawni a Chynllun Gweithredu CAMPUS yn seiliedig ar 4 blaenoriaeth –
- Trafnidiaeth gyhoeddus – Gweithio gyda’r darparwr cludiant cymunedol i sicrhau bod pobl leol yn gallu cyrraedd gwasanaethau a gweithgareddau. Cysylltu â Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr i gynnig newid llwybr bws i gynnwys safle bws newydd yn y ganolfan siopa agosaf.
- Tai – Gweithio gyda’r Landlord Cymdeithasol i gynllunio datblygiadau yn y pentref yn y dyfodol
- Chwaraeon a hamdden – Gweithio gyda’r ysgol gynradd newydd i sefydlu canolfan chwaraeon ar y tir, y gall grwpiau chwaraeon ei ddefnyddio y tu allan i oriau ysgol
- Adfywio cymunedol – Gweithio gydag ymddiriedolaeth ddiwylliannol Awen i adnewyddu’r ganolfan gymunedol
Penodwyd ymgynghorydd a chynhaliwyd ymgynghoriad â phreswylwyr trwy ddulliau amrywiol – o ddrws i ddrws, annerch grwpiau cymunedol, stondin dros dro yn y ganolfan gymunedol leol, y cyfryngau cymdeithasol etc.
Yn seiliedig ar yr adborth, crewyd Cynllun Cymunedol 5 mlynedd ar gyfer Betws a Chynllun Gweithredu CAMPUS pwrpasol sy’n cyd-fynd â Chynllun Corfforaethol a Chynllun Datblygu Lleol Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr gan sicrhau bod Cynllun Betws yn cyflawni nodau strategol corfforaethol yn lleol ac yn gallu cael gafael ar ffrydiau ariannu posibl i gyflawni’r nodau hyn.
Roedd y Cynllun yn cynnwys 8 cynnig i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau.