Canolfan Gymunedol Coety Uchaf
Mae tîm Reach yn cefnogi Cyngor Cymuned Coety Uchaf gydag astudiaeth ddichonoldeb i archwilio opsiynau gwella ar gyfer Canolfan Gymunedol Coety Uchaf a Chroes Llidiard. Mae Cyngor Cymuned Coety Uchaf (CCCU) yn ceisio cwblhau proses trosglwyddo asedau ar gyfer Canolfan Gymunedol Coety Uchaf a Chroes Llidiard. Gweledigaeth CCCU yw trawsnewid y ganolfan gymunedol, ei gwneud yn gynaliadwy ac ailddiffinio ei phwrpas, i’w galluogi i ddarparu adeilad addas ar gyfer grwpiau gwirfoddol lleol a chlybiau chwaraeon amrywiol.
Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn cynnal ymchwil ar gyfer y cyfnod cyn adeiladu, i archwilio cyflwr yr adeilad; posibiliadau ar gyfer ailgyflunio strwythurol; faint o asbestos sydd; hygyrchedd yr adeilad a’r ardal o’i gwmpas; digonolrwydd mynediad a pharcio ar gyfer cerbydau; argaeledd gwasanaethau prif gyflenwad; darparu costau ar gyfer gwelliannau, cofnodi diffygion gweladwy yn yr adeilad y mae angen gwneud gwaith adfer iddynt a chadarnhau pa elfennau o’r adeilad y mae angen eu huwchraddio i fodloni rheoliadau adeiladu cyfredol.
Canolfan Gymunedol Coety Uchaf