Clwb Rygbi Ton-du – Parc Pandy

Mae Clwb Rygbi Ton-du wrthi’n cynnal proses Trosglwyddo Asedau Cymunedol ar gyfer Parc Pandy, i ymgorffori’r caeau chwarae (rygbi a phêl-droed) ynghyd ag ardaloedd parcio, man agored cyhoeddus a’r pafiliwn newid. Mae tîm Reach yn cynorthwyo Clwb Rygbi Ton-du gydag astudiaeth ddichonoldeb, i archwilio’r opsiynau ar gyfer y parc a’r pafiliwn.

Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn cynnwys ymgynghoriad cymunedol, costiadau llawn ar gyfer rhedeg a chynnal a chadw’r tir a’r pafiliynau, adroddiad ar gyflwr adeiladau, cwmpas a chostau ynni adnewyddadwy, cynllun busnes fesul cyfnod ac argymhellion sy’n ymwneud â strwythur cyfreithiol y busnes gydag effeithiau ac ystyriaethau cymdeithasol.  Bydd hefyd yn cynnwys dylunio a chostiadau ar gyfer: mannau parcio ceir, ffynonellau ynni adnewyddadwy, ffensys diogelwch a theledu cylch cyfyng. Bydd hefyd yn ystyried datblygiad hirdymor cae artiffisial, sy’n cynnwys arolygon topograffig a chwiliadau ar gyfer cyfleustodau.

Clwb Rygbi Ton-du


Oriel y prosiect