Cyfleusterau Gwirfoddolwyr Parc Bedford

Mae tîm Reach yn cefnogi datblygiad Parc Bedford gan weithio ochr yn ochr â’r tîm Newid Hinsawdd i ddarparu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer hyb gwirfoddolwyr newydd. Mae Parc Bedford yn un o Warchodfeydd Natur Lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP). Mae Llais Y Goedwig (llais coetiroedd cymunedol yng Nghymru) wedi bod yn rheoli’r safle ar ran CBSP ac wedi bod yn cefnogi gwirfoddolwyr lleol yn rheolaidd i wneud gwelliannau i’r parc. Nid yw’r bloc ystafelloedd ymolchi presennol yn addas i’r diben mwyach ac mae wedi bod ar gau ers sawl blwyddyn ac mae adeilad arall a ddefnyddir ar gyfer gwirfoddolwyr wedi’i gondemnio.

Mae datblygiad y prosiect hwn yn deillio o’r angen lleol i fynd i’r afael â materion cyfredol a wynebir gan wirfoddolwyr y parc o ran cyfleusterau hanfodol ar gyfer ymolchi a storio offer a chyfarpar. Hoffai’r grŵp o wirfoddolwyr ymchwilio i’r posibilrwydd o gael adeilad newydd ym Mharc Bedford i greu Gweithfan Lles ar gyfer sesiynau hyfforddi, swyddfa gweithio-o-bell, cyfleusterau storio ac ymolchi i’r gwirfoddolwyr.

Bydd yr astudiaeth yn cwmpasu gwahanol arolygon safle, gwaith mapio tir, gwiriadau perygl llifogydd ac ymchwiliadau i’r tir i bennu dichonoldeb y prosiect.

Parc Bedford


Oriel y prosiect