Gardd Gymunedol Parc Caedu

Mae tîm Reach yn cynorthwyo Cyngor Cymuned Dyffryn Ogwr (CCDO) i gynnal ymgynghoriad cymunedol a dyluniadau tirwedd proffesiynol dilynol, i ddylunio gardd lesiant a choffa gymunedol ym Mharc Caedu, hen safle planhigfa yn Park Avenue, Cwm Ogwr.

Cefnogir y prosiect hwn hefyd o dan raglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) CBS Pen-y-bont ar Ogwr.  Cymeradwywyd dyheadau CCDO i drosglwyddo’r safle, yn amodol ar ddarparu cynlluniau prosiect / lluniadau / darluniau a rhestr feintiau.

Unwaith y bydd yr ymgynghoriad a’r dyluniad wedi’u cwblhau, y bwriad yw sicrhau cyllid allanol, y gellid darparu arian cyfatebol tuag ato o ffynonellau CCDO, a dechrau ar y gwaith adeiladu yn 2025.

Cyngor Cymuned Dyffryn Ogwr


Oriel y prosiect