Ariennir y Gronfa Dichonoldeb Cymunedol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ar gyfer Cymunedau a Lleoedd. Rydym yn cefnogi cymunedau Pen-y-bont ar Ogwr i wneud gwaith cynllunio cadernid lleol, gan ganolbwyntio ar Iechyd, yr Hinsawdd a’r Economi.
Mae’r Gronfa Dichonoldeb Cymunedol yn parhau â llwyddiant rhaglen Reach gyda’r uchelgais o ddatblygu cymunedau Pen-y-bont ar Ogwr a’u troi’n lleoedd llewyrchus i fyw a gweithio ynddynt ac i ymweld â nhw. Mae’n rhaglen cymorth cyllido yn benodol ar gyfer datblygu astudiaethau dichonoldeb cymunedol.
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar gyfer y Gronfa Dichonoldeb Cymunedol ar hyn o bryd. Mae’n bosib y bydd rhagor o gyllid ar gael yn 2026.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynllun uchelgeisiol ar gyfer newid, yn canolbwyntio ar bum cenhadaeth genedlaethol: amcanion uchelgeisiol, mesuradwy, hirdymor sy’n rhoi ymdeimlad cryf o ddiben i’r wlad.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r Genhadaeth yn rhagweithiol, gan wthio pŵer allan i gymunedau ym mhob man, gyda phwyslais penodol ar helpu i sbarduno twf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o’r DU.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy