Mae Cymunedau Cydnerth yn rhaglen datblygu cymunedol, gyda’i hamcanion i ddatblygu cryfder, cydnerthedd a chynaliadwyedd cymunedol o fewn Trydydd Sector Pen-y-bont ar Ogwr. Mae gweithgareddau’r rhaglen yn canolbwyntio ar gydnerthedd cymunedol i sicrhau cynaliadwyedd a thwf prosiectau cymunedol yn y dyfodol.
Mae Cronfa Effaith Balchder Bro yn rhaglen ledled Prydain, a’i nod yw darparu buddsoddiad i adfer balchder bro, cefnogi cydlyniant cymunedol, a sbarduno gweithgarwch economaidd lleol trwy welliannau gweladwy, tymor byr, wedi’u harwain gan y gymuned.
Mae’r Grantiau Bach yn cyd-fynd â’r amcanion Cronfa Effaith Balchder Bro canlynol:
a. Mannau cymunedol: creu, ehangu, gwella neu adfer cyfleusterau cymunedol presennol a galluogi sefydliadau cymunedol i gymryd rheolaeth neu berchnogaeth o asedau lleol sy’n werthfawr ond sydd wedi’u tanddefnyddio.
b. Mannau cyhoeddus: gwella’r amgylchedd ffisegol mewn mannau cyhoeddus – mae enghreifftiau o fentrau’n cynnwys mannau gwyrdd neu sgwariau cyhoeddus newydd neu wedi’u gwella, gwella ardaloedd chwarae awyr agored, mannau chwaraeon a hamdden, gosod dodrefn stryd, celf gyhoeddus neu arwyddion.
Mae Grant Bach y Gronfa Effaith Balchder Bro yn cynnig cyfalaf yn unig, yr isafswm sydd ar gael yw £1,000 a’r uchafswm yw £10,000 (gan gynnwys TAW anadferadwy). Ni all cyfanswm costau’r prosiect fod yn fwy na £25,000.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy am Cronfa Effaith Balchder Bro >